CAFODD rhaglen Heno ar S4C ei ail lansio neithiwr gyda rhai wynebau newydd ymysg y cyflwynwyr a golwg newydd i'r set, teitlau a graffeg.

Elin Fflur, Alun Williams, Owain Tudur Jones ac Angharad Mair fydd yn parhau i gyflwyno gyda Mirain Iwerydd hefyd yn ymuno â’r tîm yn y stiwdio yn Llanelli.

Mae wynebau newydd o fewn y tîm gohebu gyda James Lusted a Paul ‘Stumpey’ Davies yn ymuno â’r gyfres.

Fe fydd na un newid mawr arall, gyda’r hen soffa felen yn diflannu ac un oren, newydd yn cymryd ei lle.

Medd Owain Tudur Jones: “Mae hi’n mynd i fod yn rhyfedd oherwydd mae’r soffa felen yn eiconig, yn cult hero, ond dwi’n meddwl bod yr amser wedi dod am change bach... Fedra i weld dros amser y bydd y soffa oren yn troi yn eicon ei hun.”

Er y newidiadau fydd i wedd y rhaglen, fe fydd Heno yn dal i ddod â holl straeon Cymru i’r gwylwyr ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am saith o’r gloch o nos Lun i nos Wener.

Fe fydd camerâu Heno yn teithio ledled Cymru bob wythnos ac yn ymweld â phob cwr o’r wlad. Byddant yn ymweld â Pen Llŷn, Hen Golwyn, Abertawe, y Rhondda, Wrecsam i ddim ond enwi rhai llefydd yr wythnos hon yn unig.

Esbonia y gyflwynwraig a chynhyrchydd y rhaglen, Angharad Mair sydd wedi bod yn rhan o lwyddiant Heno ers ei dechrau 33 mlynedd yn ôl: “I fi y peth pwysicaf am Heno ac wedi bod ers y dechrau ac sy’n parhau fel ethos y rhaglen yw’r gwylwyr. Rhaglen y gwylwyr yw Heno yn fwy na dim. Nhw sy’n berchen y rhaglen.

“Mae’n braf gallu adlewyrchu yr holl ddigwyddiadau sy’n digwydd mewn cymunedau gwahanol yng Nghymru ac adlewyrchu holl dalentau Cymru hefyd.

“Er ein bod ni’n aml yn poeni am sefyllfa y Gymraeg, y gwir yw, yn sgil llwyddiant addysg Gymraeg mae croes doriad mwy amrywiol o siaradwyr Cymraeg erbyn hyn.

“Mae Cymry Cymraeg nawr yn llwyddiannus ymhob math o feysydd ym mhob cwr o’r byd ac mae’n beth braf gallu adlewyrchu hynny ar Heno hefyd.”

Mae croeso i unrhyw un awgrymu straeon ar gyfer y rhaglen a hefyd i wahodd tîm Heno i fynychu eu digwyddiadau.

Medd Elin Fflur: “Mae’n braf ein bod ni yn y digwyddiadau mawr yn siarad efo’r actorion, cantorion ayb pwysicach fyth yw ein bod ni yn ein cymunedau yn siarad efo pobl am y pethau sydd yn effeithio ar deuluoedd a phobl o fewn ein cymunedau.

“Mae’n bwysig i ni beidio eistedd yn llonydd, ein bod ni’n parhau i ymateb i beth sydd yn digwydd gan gadw at wreiddiau’r rhaglen.”

Mae’r rhaglen gylchgrawn Prynhawn Da sydd hefyd yn darlledu’n fyw o stiwdio Llanelli yn ystod y prynhawn hefyd yn cael gweddnewidiad.

Gallwch chi weld Prynhawn Da ar S4C am ddau o’r gloch, o ddydd Llun i ddydd Gwener.