CYNHALIODD Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru eu cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus ar faes y Sioe yn Llanwelwedd ar ddydd Sul, 24ain o Fawrth.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ddarllen gyda tîm dan 14 Ceredigion yn cipio’r wobr gyntaf, gydag Esyllt Jones, Llanwenog yn dod i’r brig fel darllenydd gorau yn y Gymraeg.  Roedd Fflur McConnell, Mydroilyn a Lois Davies, Tregaron hefyd yn y tri uchaf fel darllenwyr.

Y tîm dan 21ain a ddaeth yn ail oedd Cadeirydd - Elin Davies, Llanwenog; Siaradwyr - Martha Thomas, Bro’r Dderi ac Osian Davies, Llanwenog gyda Martha Thomas ac Elin Davies yn y tri uchaf fel siaradwyr.

Cipiodd y tîm Cymraeg dan 28 y wobr gyntaf hefyd gydag Elen Davies, Pontsian yn siaradwr gorau dan 28, a Naomi Seren Nicholas-Jones, Pontsian yn y tri uchaf.

Ar ddiwedd y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg, Ceredigion oedd yn gyntaf.

Yn y gystadleuaeth Saesneg, fe ddaeth y tîm darllen dan 14 yn 2il sef Cadeirydd: Ela Mablen Griffiths-Jones, Mydroilyn ar darllenwyr Mari Lois Jones, Llanwenog a Fflur McConnell, Mydroilyn.

Y tîm dan 16 yn gyntaf, Cadeirydd: Daniel Evans a diolchydd, Cadi Rees yddau o glwb Pontsian ar siaradwr Rhodri Jenkins, Mydroilyn yn cipio’r wobr gyntaf am y siaradwr gorau dan 16.

Trydydd oedd y tîm dan 21, ac unwaith eto'r tîm dan 28 yn cipior wobr gyntaf a Meleri Morgan o glwb Llangeitho yn siaradwr gorau siarad cyhoeddus Saesneg dan 28.

Ceredigion yn gyntaf ar ddiwedd y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Saesneg.

Cystadleuaeth y Ciwb – Clwb Llangeitho yn 3ydd a Felinfach yn 2il yn yDawnsio.

Ar ddiwedd y cystadlu cipiodd Ceredigion y ddwy darian – Cymraeg a Saesneg.

Pob lwc i bawb a fydd yn cynrychioli Cymru yn Stafford ar y 6ed o Orffennaf, sef Tîm Darllen dan 14, Tîm dan 16, a Thîm dan 28 ar dawnsio.